top of page
curlew chicks in hand(crop).jpg

Gylfinirod yn heidio i Gaerdydd

Yn ddiweddar, cyfarfu dirprwyaeth o Gylfinir Cymru â Huw Irranca-Davies, y Dirprwy Brif Weinidog sy’n gyfrifol am newid hinsawdd a materion gwledig yn Llywodraeth Cymru, i drafod yr heriau sy’n wynebu gylfinirod sy’n magu yng nghefn gwlad Cymru.


Gwnaeth y Dirprwy Brif Weinidog sylwadau cadarnhaol ar y gwaith sydd eisoes wedi’i gyflawni i roi sylw i sefyllfa fregus y Gylfinir ym maes gwleidyddiaeth a pholisi. Fe wnaethom dynnu sylw at rai o’r ymdrechion cydweithredol a gychwynnwyd o ganlyniad i Gynllun Gweithredu Cymru ar gyfer Adfer y Gylfinir, yn enwedig yn yr Ardaloedd Gylfinir Pwysig, a diolch i Lywodraeth Cymru am ariannu Prosiect Cysylltu Gylfinir Cymru a chynghorydd arbenigol ar adfer rhywogaethau yn CNC, sy’n cydlynu camau gweithredu ac yn rhannu canfyddiadau ar draws y gymuned o hyrwyddwyr y Gylfinir.


Cydnabu’r Dirprwy Brif Weinidog ddifrifoldeb yr argyfwng sy’n wynebu’r Gylfinir a bod angen gwaith parhaus dros nifer o flynyddoedd i achub y rhywogaeth. Amlygwyd yr ymrwymiad hirdymor sydd ei angen i sicrhau bod pobl ag arbenigedd ar lawr gwlad i helpu ffermwyr a thirfeddianwyr i helpu'r gylfinir. Ariennir prosiectau adfer yng Nghymru gan amrywiaeth o ffynonellau, ond mae pob un ohonynt yn dibynnu i ryw raddau ar grantiau sydd eisoes yn dirwyn i ben neu a fydd yn dod i ben yn ystod yr ychydig flynyddoedd nesaf. Anogodd Gylfinir Cymru i archwilio cyfleoedd ar gyfer cyllid cynaliadwy a moesegol, a bydd yn amlinellu llwybr Llywodraeth Cymru yn hyn o beth yn ddiweddarach y gwanwyn hwn.


Cawsom drafodaethau helaeth ynghylch y manteision lluosog y gellir eu cyflawni drwy fesurau rheoli ar gyfer y Gylfinir a’u synergedd â’r pedwar amcan rheoli tir cynaliadwy y mae’n rhaid i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS) gadw atynt. Roedd hyn yn cynnwys dal a storio carbon, ansawdd dŵr a llif dŵr trwy adfer mawndiroedd a rheoli glaswelltir, buddion diwylliannol a chymdeithasol i gymunedau gwledig, a mathau eraill o fioamrywiaeth a all ffynnu mewn cynefinoedd a reolir yn dda.


Mae’r rhan fwyaf o’r gylfinirod sy’n magu yng Nghymru ar dir a reolir gan y gymuned ffermio, felly mae Gylfinir Cymru yn credu bod SFS effeithiol yn hanfodol i’w dyfodol. Roedd cytundeb cyffredinol bod hyn yn hanfodol fel bod gan ffermwyr yr hyder a’r arian i ffermio mewn ffyrdd sy’n cynhyrchu cyfres o allbynnau, gan gynnwys y Gylfinir. Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog fod y Cynllun Adnoddau Naturiol Integredig (CANI) a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn arwydd o’r trywydd y bydd yr SFS yn ei gymryd, gan annog ffermydd i gydweithio ar raddfa’r dirwedd. Mae nifer o'r prosiectau peilot sy'n cael eu datblygu yn cynnwys ffermwyr mewn ardaloedd allweddol i'r Gylfinir.


Croesawodd y Dirprwy Brif Weinidog gynnig Gylfinir Cymru i ddefnyddio profiad a gwybodaeth dechnegol ei aelodau i weithio gyda swyddogion sy’n datblygu’r SFS. Ailadroddodd ymrwymiad Llywodraeth Cymru i achub y gylfinir fel rhywogaeth sy’n magu yng Nghymru, y flaenoriaeth uchaf o ran gwarchod adar yn y DU, a chadarnhaodd gefnogaeth y Llywodraeth i Gynllun Adfer Cymru. Yn ystod 2025, bydd partneriaeth Gylfinir Cymru yn adolygu’r cynnydd a wnaed yn y pedair blynedd diwethaf, yn nodi a yw bygythiadau wedi cynyddu neu wedi cilio, a bydd yn ailflaenoriaethu camau gweithredu yn ôl yr angen.


Mae ein gylfinirod sy’n magu yn gaeafu ar arfordiroedd gorllewin Ewrop ar hyn o bryd a chyn bo hir byddant yn dychwelyd i gefn gwlad Cymru. Mae eu dyfodol yn dibynnu ar yr hyn sy'n digwydd mewn caeau ac ar rostiroedd, ond hefyd yn yr un modd ar y penderfyniadau a wneir gan y Llywodraeth yng Nghaerdydd a thu hwnt. Sicrhaodd Gylfinir Cymru fod y penderfynwr allweddol yng Nghymru yn gwybod ei bod yn adeg dyngedfennol ar gyfer achub cri’r Gylfinir.


Ian Danby (Cymdeithas Saethu a Chadwraeth Prydain, BASC ), Patrick Lindley (Cyfoeth Naturiol Cymru), Huw-Irranca Davies (Dirprwy Brif Weinidog), Lee Oliver (Ymddiriedolaeth Gwarchod Anifeiliaid Hela a Bywyd Gwyllt (GWCT), Amanda Perkins (Curlew Country) a Julian Hughes (RSPB Cymru).
Ian Danby (Cymdeithas Saethu a Chadwraeth Prydain, BASC ), Patrick Lindley (Cyfoeth Naturiol Cymru), Huw-Irranca Davies (Dirprwy Brif Weinidog), Lee Oliver (Ymddiriedolaeth Gwarchod Anifeiliaid Hela a Bywyd Gwyllt (GWCT), Amanda Perkins (Curlew Country) a Julian Hughes (RSPB Cymru).

 
 
 

Comments


bottom of page